Economir Fro

Economir Fro

Share

Rhoi cymorth i fusnesau a grwpiau cymunedol ar draws Bro Morgannwg, a chynnig gwybodaeth am newyddio

15/04/2026

Ydych chi wedi cofrestru i gael ein cylchlythyr? Mae gennym Gylchlythyr Busnes bob pythefnos a Chylchlythyr Canol Trefi misol sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am gyllid, digwyddiadau, cymorth busnes a llawer mwy.

Gallwch gofrestru i'n cylchlythyrau neu weld y rhifynnau diweddaraf ar ein tudalen we.

🔗https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/working/Business-Support/Business-Support.aspx

19/02/2026

Physical Finesse oedd y busnes cyntaf i ni groesawu i'n Peiriandy ar ei newydd wedd. Maent yn bractis Ffisiotherapi sy'n cynnig sesiynau Pilates Reformer 1:1, dosbarthiadau Pilates Reformer grŵp bach (3:1), apwyntiadau Ffisiotherapi a thylino chwaraeon.

Dewisodd Hannah Barrett, sylfaenydd Physical Finesse, Ffisiotherapi ar ôl bod mewn damwain car ddifrifol. Aeth yn ôl i'r brifysgol yn 26 oed i ailhyfforddi, gan ennill sawl gwobr yn y broses. Agorodd ei stiwdio fach gyntaf yn 2023 yn Heol Romilly, y Barri lle cynigiodd sesiynau Pilates Reformer 1:1 a hyfforddiant personol. Ar ôl ychydig flynyddoedd llwyddiannus, penderfynodd Hannah ehangu'r busnes yn 2025, gan greu stiwdio newydd yn y Peiriandy a recriwtio dau Ffisiotherapydd arall.

Rydym wrth ein bodd bod Hannah wedi dewis y Peiriandy ar gyfer cam nesaf ei thaith fusnes, mae Hannah a'i thîm wedi creu gofod cynnes a chroesawgar i'w cwsmeriaid. Nid oes terfyn oedran, ar hyn o bryd dim ond 19 oed yw eu haelod ieuengaf a'u hynaf yn 76!

P'un a ydych chi'n gwella o anaf, yn chwilio am hyfforddwr personol neu os hoffech roi cynnig ar sesiynau a dosbarthiadau ffitrwydd, gallai Physical Finesse fod yr union beth rydych chi'n chwilio amdano.

https://physicalfinesse.co.uk/

Cyngor Bro Morgannwg Physical Finesse Bro Radio Love The Vale by Bro Radio

18/02/2026

Cynhelir Gŵyl Gymreig ddydd Iau 26 Chwefror 2026 o 12yp tan 4yp, gan ddod â theuluoedd, busnesau lleol a sefydliadau cymunedol ynghyd ar gyfer prynhawn o gerddoriaeth, dysgu a dathlu.

Gwyl Gymreig Poster CymraegMae'r digwyddiad wedi cael ei gydlynu drwy'r rhaglen manteision cymunedol sy'n gysylltiedig ag adeiladu adeilad newydd Ysgol Iolo Morganwg yn y Bont-faen.

Ei nod yw hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn y Fro Gorllewinol, dathlu diwylliant Cymru, a chryfhau cysylltiadau â busnesau lleol yn y Bont-faen.

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/press_and_communications/latest_news/2026/February/G%C5%B5yl-Gymreig-to-Celebrate-Welsh-Language-and-Culture-in-Cowbridge.aspx

Cyngor Bro Morgannwg

Want your organisation to be the top-listed Government Service in Cardiff?
Click here to claim your Sponsored Listing.

Telephone

Address


Cardiff
CF634RT

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm